PET(4)-01-12 p10a

P-03-227 Yn erbyn y ffordd fynediad arfaethedig i Metrix yn Llanmaes

 

Geiriad y ddeiseb
Rydym ni, preswylwyr Llanmaes, Millands Park, a’r ardal wledig gyfagos yn gwrthwynebu:

 

·         y ffordd fynediad ogleddol arfaethedig ar gyfer y Coleg Amddiffyn Technegol arfaethedig

·         yr ystâd dai arfaethedig - Fferm Tremains

 

Gwrthwynebwn yr uchod am y rhesymau a ganlyn:

 

  1. Mae’n golygu dinistrio safle maes glas pan fo safleoedd tir llwyd ar gael
  2. Bydd yn creu cryn lygredd sŵn, golau a llwch
  3. Bydd yn achosi niwed ecolegol sylweddol

 

Prif ddeisebydd: Cyngor Cymuned Llanmaes

 

Ystyriwyd gan y Pwyllgor am y tro cyntaf: Mehefin 2009

 

Nifer y llofnodion:
416

Gwybodaeth ategol:
Fel preswylwyr Llanmaes, rydym am gyflwyno’r ddeiseb amgaeedig sydd wedi’i llofnodi gan 416 o aelodau’r gymuned. Mae’r rhain yn cynnwys llofnodion o bob cartref yn y pentref, Millands Park ac ardal y gymuned, ac eithrio chwech.

Mae ein pryderon yn ymwneud yn bennaf â’r ffordd fynediad ogleddol arfaethedig a’r datblygiad tai i deuluoedd y gwasanaeth, gan fod y ddau ddatblygiad arfaethedig wedi’u lleoli ar feysydd glas, er bod llawer o safleoedd tir llwyd nad ydynt yn cael eu defnyddio ar gael yn yr ardal. Ar ben hynny nid oes angen ffordd newydd yn y lleoliad hwn, ac mae’n anodd ei chyfiawnhau, pan mae dewisiadau eraill ar gael sy’n peri llai o bryder.

Caiff y datblygiadau hyn effaith drom ar ein cymuned, gan arwain at dreblu nifer y cartrefi yn Llanmaes. Caiff y ffordd newydd, a fydd mor agos at eu cartrefi, effaith ddwys ar fywydau trigolion Millands Park. Caiff y ffordd a’r datblygiad tai effaith ecolegol enfawr hefyd yn ogystal â’r goblygiadau ar amwynder yr ardal ar gyfer y gymuned gyfan.

Cyfeiriwn y ddeiseb atoch chi fel Prif Weinidog Cynulliad Cenedlaethol Cymru gan ein bod wedi cael ar ddeall bod y cynigion hyn a’r cyllid ar gyfer y ffordd yn deillio o adrannau perthnasol Llywodraeth Cymru, yn hytrach na chonsortiwm Metrix.

Gofynnwn i’ch cynllunwyr ailystyried y posibilrwydd o leoli’r ffordd fynediad drwy wneud mynedfa bresennol porth gorllewinol y ganolfan yn fwy. Byddai hyn yn osgoi dinistrio safleoedd tir gwyrdd, yr ymyrryd sylweddol gan drafnidiaeth a’r llygredd o ran sŵn ac edrychiad. Ar ben hynny hefyd, mae’n debygol o fod yn llai costus.